Ymateb CCAUC i’r craffu ôl-ddeddfwriaethol ar                                                Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

 

Cyflwyniad

 

Cryfhaodd Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 bwerau rheoleiddio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru mewn perthynas ag ansawdd addysg, materion ariannol, ffioedd israddedig llawn amser a gwella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth fel ymateb i’r ffaith bod y cyllid oedd ar gael ar gyfer addysg uwch yng Nghymru’n lleihau, fel bod y peirianwaith rheoleiddio a oedd yn bodoli cynt, a’r ysgogiadau polisi, a oedd yn dibynnu ar gyllid i gyd, yn dod yn aneffeithiol. Felly, roedd y bwriad y tu ôl i’r ddeddfwriaeth yn bositif, ond mae nifer o heriau rheoleiddio a gweithredol wedi bod gyda’r trefniadau newydd.                

 

Rydym yn dymuno nodi, ymlaen llaw, mai dim ond ar 1 Awst 2017 y daeth y ddeddfwriaeth yn gwbl weithredol ac, o ganlyniad, efallai ei bod yn rhy fuan mewn sawl cyswllt i ddeall effaith lawn y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, rydym yn dymuno rhannu rhai o’n profiadau o’r ddeddfwriaeth, o ddatblygiad y Ddeddf a dechrau ei gweithredu.               

 

Dyma’r pwyntiau cyffredinol rydym yn dymuno eu gwneud:

·           Mae cyfarwyddyd a chymhlethdod y ddeddfwriaeth wedi atal cyflawni rhai o amcanion Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Y wers yn hyn yw peidio â gorfanylu yn y ddeddfwriaeth. Nid yw hynny’n golygu eiriol dros ddefnyddio deddfwriaeth fframwaith, gyda’r manylion i’w hychwanegu’n ddiweddarach drwy ddeddfwriaeth eilaidd. Mae’n golygu derbyn mai’r rhesymeg o gael corff hyd braich yw eich bod yn ymddiried yn y corff hwnnw i ddatblygu’r peirianwaith gweithredol, ond gan ddisgwyl y bydd yn ymgynghori fel sy’n briodol, ac y bydd yn gweithredu’n rhesymol (neu’n cael ei herio). Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â ni fel rhanddeiliad pan oedd y ddeddfwriaeth yn cael ei datblygu, ac er bod sawl cwestiwn unigol wedi’u gofyn i ni i gynorthwyo gyda’u dull o feddwl, nid oeddem mewn sefyllfa i gael dylanwad mawr ar gynllun y ddeddfwriaeth, na’r ffurf derfynol o’i chyflwyno. Arweiniodd hyn at rywfaint o gymhlethdod y byddem wedi cynghori yn ei erbyn.             

·           Mae rheoleiddio addysg uwch israddedig llawn amser yn unig wedi gadael rhai bylchau yn yr oruchwyliaeth ar addysg uwch yng Nghymru. Gallai hyn arwain at brofiad gwaelach i fyfyrwyr sy’n astudio ar y cyrsiau hynny, er eu bod yn cael derbyn cymorth myfyrwyr i astudio ar y cyrsiau hynny, ac                             

·           Mae’r amrywiaeth o sancsiynau rheoleiddio sydd ar gael i CCAUC yn gyfyngedig. Mae hyn yn atal gallu CCAUC i wneud penderfyniadau a bod yn gymesur pan nad yw sefydliad a reoleiddir yn cydymffurfio neu pan nad yw’n cyflawni amcanion polisi mor effeithiol ag y gallai. 

 

Er mwyn cyfrannu at y craffu, rydym hefyd wedi darparu dolenni at ein hymatebion gwreiddiol i’r ymgynghoriadau oedd yn sail i ddatblygu’r Bil.[1]

1.         A yw’r Ddeddf wedi neu yn cyflawni ei hamcanion polisi ac, os nad

ydyw, pam? 

 

1.1        Rydym wedi ateb y cwestiwn hwn drwy ymateb i bob un o’r amcanion a nodwyd yn y memorandwm esboniadol oedd yn cyd-fynd â’r Bil Addysg Uwch.  

 

(a) sicrhau rheoleiddio cadarn a chymesur ar sefydliadau yng Nghymru y mae eu cyrsiau’n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau addysg uwch a gefnogir gan Lywodraeth Cymru;

 

1.2       Mae CCAUC wedi sefydlu trefniadau cadarn, drwy ymgynghori a chraffu priodol, ar gyfer y meysydd y mae’r Ddeddf yn grymuso CCAUC i’w rheoleiddio; lefelau ffioedd, cyfleoedd cyfartal, hybu addysg uwch, ansawdd addysg a materion ariannol. Fodd bynnag, fel y byddwn yn nodi yn yr ymateb hwn, ceir meysydd sydd y tu hwnt i gwmpas pwerau CCAUC na all CCAUC eu rheoleiddio. 

 

1.3       Dim ond system reoleiddio ar gyfer y ddarpariaeth addysg uwch israddedig lawn amser mae Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 wedi’i sefydlu. Mae hyn wedi galluogi i rai sefydliadau yng Nghymru a gyllidir yn gyhoeddus dderbyn cymorth myfyrwyr ar gyfer eu cyrsiau addysg uwch rhan amser heb gael eu rheoleiddio. O ganlyniad, nid yw darparwyr sy’n derbyn cymorth myfyrwyr wedi gorfod cael adolygiad allanol o’u darpariaeth addysg uwch gan gorff ar Gofrestr Sicrwydd Ansawdd Ewrop, fel yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch. O ganlyniad, ni all Llywodraeth Cymru fod yn sicr bod y ddarpariaeth rhan amser sy’n cael ei chefnogi gan gymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru yn bodloni anghenion rhesymol y myfyrwyr. Mae hon yn risg i arian cyhoeddus, i enw da addysg uwch yng Nghymru ac, yn bwysicach na dim, i’r holl fyfyrwyr sy’n astudio ar y cyrsiau hynny.

 

1.4       Hefyd, nid yw astudiaethau ôl-radd yn cael eu rheoleiddio chwaith. Mae’r darparwyr sy’n derbyn cymorth myfyrwyr ar gyfer y ddarpariaeth hon yn debygol o fod yn cael eu rheoleiddio gan CCAUC. Mae hyn yn darparu goruchwyliaeth safonol ar y cyrsiau hynny ond nid yw’n darparu’r un lefel o graffu ar y lefelau ffioedd a godir a’r buddsoddi incwm ffioedd er mwyn gwella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch.

 

1.5       Fel rydym wedi nodi yn ein hymateb i gwestiwn 5 yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwygio addysg ôl-orfodol a’r system hyfforddi yng Nghymru, Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus [2], mae’r sancsiynau sydd ar gael i CCAUC drwy gyfrwng Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 yn gweithredu’n araf ac yn ddirfodol fygythiol i raddau helaeth i ddarparwyr. Mae hyn yn gwneud y sancsiynau’n anodd eu defnyddio ac nid yw’n caniatáu ar gyfer ymyriadau ffurfiol, cyflym i roi sylw i broblemau’n gymesur drwy ein pwerau cyfreithiol. 

 

1.6       Hefyd mae’r system reoleiddiol wedi cael ei sefydlu gyda ffocws ar sefydliadau. Mae hyn yn cyfyngu ar allu CCAUC i ddefnyddio’r adnoddau rheoleiddiol i hwyluso gweithgareddau cydweithredol i fodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, fel mewn perthynas â gwella cyfleoedd cyfartal.

 

1.7       Mae’r ddeddfwriaeth yn rhy gyfarwyddol a chymhleth, a dim ond hyblygrwydd cyfyngedig sydd i CCAUC ei siapio’n weithredol. Rydym yn nodi isod, mewn perthynas â chynnal ffocws cryf ar wella cyfleoedd cyfartal, bod lefel y manylder yn ei gwneud yn anos gwella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch. Hefyd mae wedi arwain at ddefnyddio termau fel ansawdd yn debygol o ddatblygu i fod yn annigonol y mae’n rhaid gweithio drwyddynt gydag arbenigwyr ansawdd a’r sector i’w diffinio, gan ei fod yn gysyniad unigryw i drefniadau ansawdd mewn addysg uwch. Hefyd, mae’r gofyniad deddfwriaethol i’r Cod Rheolaeth Ariannol gael ei gymeradwyo gan y Gweinidog a’i gyflwyno ger bron y Cynulliad Cenedlaethol cyn ei weithredu wedi lleihau gallu’r Cyngor i ymateb yn gyflym i amgylchiadau’n newid.

 

1.8       Serch hynny, ceir rhai meysydd lle mae’n briodol i’r ddeddfwriaeth, a gweithredu’r ddeddfwriaeth, beidio â chael ei chymedroli i adlewyrchu gwahanol fathau a graddfeydd o ddarparwyr. Y canlyniad wrth ddod yn rhan o’r system reoleiddiol yng Nghymru yw bod yr holl gyrsiau addysg uwch llawn amser a gyflwynir gan sefydliad a reoleiddir yn cael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth myfyrwyr. Rhaid i bob sefydliad, heb ystyried maint na chenhadaeth, allu dangos ei fod yn bodloni’r un gofynion o ran hyfywedd ariannol ac ansawdd addysg ag unrhyw sefydliad arall a reoleiddir er mwyn gwarchod myfyrwyr a darparu sicrwydd i Lywodraeth Cymru.

 

(b) diogelu’r cyfraniad a wneir at fudd y cyhoedd sy’n codi o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru i addysg uwch;

 

1.9        Mae pob sefydliad sy’n cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd ar gyfer eu cyrsiau israddedig llawn amser yn elusennau. Hefyd, mae’n ofynnol iddynt i gyd fuddsoddi cyfran o incwm ffioedd eu myfyrwyr i gyflawni amcanion i wella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch yng Nghymru. Mae hyn yn diogelu’r cyfraniad at fudd y cyhoedd i raddau, ond mae ein hymateb i’r cwestiwn ynghylch mynediad teg isod yn awgrymu mai dim ond gwelliant cyfyngedig fydd y ddeddfwriaeth yn ei sicrhau efallai i’r cyfraniad sy’n cael ei wneud gan sefydliadau at fudd y cyhoedd.

 

1.10           Fel y nodwyd uchod, nid yw astudiaethau rhan amser ac ôl-radd yn cael eu rheoleiddio ac felly nid oes unrhyw fesurau rheoleiddiol yn gysylltiedig â’r incwm ffioedd hyfforddi hwnnw er mwyn gwella’r cyfraniad at fudd y cyhoedd.

 

(c) cynnal ffocws cadarn ar fynediad teg i addysg uwch;

 

1.11                  Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ffocws cadarn ar fynediad teg mewn addysg uwch drwy ddatgan ei bod yn ofynnol i sefydliad sy’n dymuno bod yn sefydliad a reoleiddir gyflwyno cynllun mynediad a ffioedd sy’n dangos ei ymrwymiad i nid dim ond mynediad teg, ond i amrywiaeth ehangach o fesurau pwysig hefyd i wella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch. Fodd bynnag, nid yw cynnal ffocws yr un peth â mynd ati i wella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch. Er ei bod braidd yn gynnar o hyd i gyflwyno sylwadau pendant ar effeithiolrwydd y cynlluniau mynediad a ffioedd, gan nad yw’r cynlluniau mynediad a ffioedd cyntaf wedi cael eu gwerthuso’n llawn eto, mae gennym bryderon am ba mor effeithiol y gall cynlluniau mynediad a ffioedd fod wrth gyflawni amcanion polisi, o ran y ffordd maent wedi’u datgan yn Neddf 2015.   

 

1.12                Mae gwarchod ymreolaeth sefydliadau wedi’i ddatgan i’r fath raddau yn Neddf 2015 fel ein bod wedi cael ein cynghori nad oes modd, yn gyfreithiol, i ni ddatgan ei bod yn ofynnol i sefydliadau a reoleiddir ganolbwyntio ar ganlyniadau cenedlaethol i wella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch yng Nghymru. Mae sefydliadau’n cael dewis yr amcanion a’r targedau maent yn eu cynnwys mewn cynlluniau mynediad a ffioedd. Mae’r sefydliadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cenedlaethol yn gwneud hynny’n wirfoddol.

 

1.13                Mae’r manylder sydd wedi’i ddatgan yn y ddeddfwriaeth, y ddeddfwriaeth ategol a’r cyfarwyddyd ynghylch y broses ar gyfer cynlluniau mynediad a ffioedd yn rhy gyfarwyddol. Mae’r sefydliadau yng Nghymru’n wahanol fathau o sefydliadau i gyd ond eto mae’r mecanwaith a ddefnyddir i gyflawni amcan polisi Llywodraeth Cymru o wella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch wedi’i fanylu ac nid yw’n caniatáu ar gyfer ffocws cadarn ar ganlyniadau. Yn y dyfodol, byddem yn argymell bod unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn llai cyfarwyddol ac yn caniatáu i gorff rheoleiddiol benderfynu, drwy gyfrwng cyngor gan bwyllgorau a thrwy ymgynghori perthnasol, ar y dulliau a’r prosesau gorau i wella cyfleoedd cyfartal a hybu addysg uwch yng Nghymru. Dylid ymddiried yn y corff rheoleiddiol i wneud hyn a’i farnu ar y canlyniadau mae’r sector yn eu cyflawni.

 

1.14                Mae’r amseru ar gyfer cymeradwyo ac wedyn monitro cydymffurfiaeth a gwerthuso effeithiolrwydd y cynlluniau mynediad a ffioedd yn ddigyswllt o ran bwrw ymlaen yn effeithiol â’r amcanion y cynlluniwyd y cynlluniau mynediad a ffioedd i’w cyflawni. Er enghraifft, ysgrifennwyd a chymeradwywyd cynlluniau mynediad a ffioedd 2017/18 ar ddechrau neu tua chanol 2016. Dim ond tua diwedd 2018 neu ganol 2019 y gellir eu monitro a’u gwerthuso’n effeithiol, yr amser pryd mae cynlluniau mynediad a ffioedd 2020/21 yn cael eu hysgrifennu a’u cymeradwyo. Os bydd unrhyw broblemau gyda chynlluniau effeithiol, byddai’n rhy hwyr i roi gwybod ar gyfer cymeradwyo 2, os nad 3, o’r cynlluniau olynol.            

 

1.15                Gan nad yw’r ddarpariaeth ran amser ac ôl-radd wedi’i rheoleiddio, mae’r ysgogiadau i wella cyfleoedd cyfartal yn y maes hwn mewn addysg uwch yn gyfyngedig.

 

(d) cynnal a gwarchod ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.   

 

1.16                Mae cynnal a gwarchod ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd wedi’i ddatgan yn glir yn y ddeddfwriaeth gyfan. Nid yw’n ymddangos bod y bwriad i warchod ymreolaeth sefydliadol wedi atal CCAUC, mewn rhai meysydd, rhag cyflawni amcanion y ddeddfwriaeth.

 

1.17                Rydym wedi nodi’r rhwystrau sy’n atal gwella cyfleoedd cyfartal uchod, fel y pennu targedau heriol i wella canlyniadau ar gyfer Cymru.                    

 

2                   Pa mor dda mae trefniadau cyffredinol y Ddeddf yn gweithio’n ymarferol, gan gynnwys unrhyw gamau gweithredu mae eich sefydliad wedi gorfod eu rhoi ar waith o dan y Ddeddf?

 

2.1       Rydym wedi datgan rhai o gyfyngiadau trefniadau cyffredinol y Ddeddf fel ymateb i’r cwestiwn uchod, fel yr ystod o sancsiynau sydd ar gael i CCAUC ac effeithiolrwydd y cynlluniau mynediad a ffioedd.

 

2.2       Fel y nodir isod, mae costau ariannol y trefniadau datblygu ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth, ac wedyn gweithredu’r trefniadau hynny, wedi peri i ni ddargyfeirio adnoddau o feysydd gweithgarwch eraill CCAUC.

 

2.3       Fel y byddwn yn esbonio mewn ymateb i’r cwestiwn canlynol, roedd cymhlethdod a chyfarwyddyd y ddeddfwriaeth yn dweud ei bod yn ofynnol i ni gaffael cyngor cyfreithiol sylweddol er mwyn deall sut gellid gweithredu’r ddeddfwriaeth yng nghyd-destun system addysg uwch Cymru sy’n gweithredu ar lefel y DU ac yn rhyngwladol.  

 

2.4       Roedd y Ddeddf yn rhoi goruchwyliaeth i CCAUC ar holl ddarpariaeth y sefydliadau a reoleiddir, sydd wedi profi cymhlethdod mewn perthynas â darparwyr sydd ag addysg bellach yn brif fusnes iddynt, sy’n cael ei arolygu gan Estyn. Mae wedi cymryd cryn dipyn o amser i ni weithio drwy’r diofalwch neu’r diffyg eglurder hwn yn y ddeddfwriaeth, a sefydlu sut i roi sylw i’n cyfrifoldebau cyfreithiol heb gynyddu’r baich ar sefydliadau. Byddai wedi bod o gymorth i’r Ddeddf ganolbwyntio ar ddarpariaeth addysg uwch y sefydliadau a reoleiddir yn unig.

 

2.5      Yn yr un ffordd, lle ceir sefydliadau addysg ôl-orfodol cymhleth, yn y dyfodol bydd rhaid datgan yn glir lle mae cyfrifoldebau comisiwn newydd yn gorffen, a sut mae unrhyw orgyffwrdd yn cael sylw. 

 

3                   A yw costau’r Ddeddf, neu gostau eich sefydliad chi ar gyfer camau gweithredu a roddir ar waith o dan y Ddeddf, yn unol â’r hyn a nodwyd gan Lywodraeth Cymru?

 

3.1       Rydym wedi cyflwyno amcangyfrif o rai costau eisoes i Lywodraeth Cymru ar gyfer ein costau o dan y Ddeddf. Mae ein hamcangyfrif ni o’r costau’n fwy nag a amcangyfrifwyd gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol. Ar y pryd, roeddem yn amcangyfrif y byddai’n rhaid i ni gyflogi staff ychwanegol er mwyn gweithredu’r Ddeddf mor effeithiol â phosib. Nid oedd modd i ni gyflawni hyn ac roedd y staff oedd yn gweithio ar ddatblygu a gweithredu’r Ddeddf hefyd yn gyfrifol am barhau â gwaith parhaus CCAUC yn ychwanegol at y gwaith hwn. Mae hyn wedi effeithio ar ein gallu i gyflawni ein cylch gwaith yn effeithiol.

 

3.2       Fel y nodwyd uchod, rydym wedi gorfod cael cyngor cyfreithiol ac mae’r cyfanswm am hynny oddeutu £54,500.

 

3.3       Mae costau’r staff yn anos eu hamcangyfrif. Arbedwyd arian wrth gwrs drwy ddefnyddio staff presennol a’u sylfaen o wybodaeth. Pe baem wedi cyflogi staff newydd, byddai cyfnod hwy o hyfforddiant a datblygu wedi bod wrth i’r staff hynny setlo i mewn. Mae hynny’n golygu bod oedi wedi bod gyda gwaith arall a ddylai fod wedi cael ei gwblhau yn ystod y cyfnod dan sylw, am nad oedd yn flaenoriaeth mwyach. Mae’n amhosib costio’r oriau ychwanegol helaeth a gwblhawyd gan y swyddogion cysylltiedig fel rhan o’n system gweithio hyblyg, gan gynnwys yn ystod yr ymarfer cynllun mynediad a ffioedd yn ystod y Ddeddf. 

 

3.4       Gan ystyried costau datblygu trefniadau ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd ac wedyn datblygu gofynion newydd y ddeddfwriaeth, rydym wedi amcangyfrif costau’r staff fel oddeutu £250k y flwyddyn ers 2016-17 o ganlyniad i waith ychwanegol.

 

3.5      Rydym hefyd yn gwybod bod sefydliadau a reoleiddir wedi wynebu costau ychwanegol sylweddol o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth.

 

4                   A yw’r Ddeddf wedi cyflawni gwerth am arian?

 

 

5                   A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol neu negyddol yn codi o’r Ddeddf?

 

5.1       Rydym wedi tynnu sylw at rai o’n pryderon fel ymateb i’r cwestiynau uchod ac wedi ychwanegu rhai pwyntiau ychwanegol fel ymateb i’r cwestiwn hwn. Rydym yn credu y byddai’r canlyniadau hyn wedi gallu cael eu hosgoi pe bai CCAUC wedi gallu dylanwadu ar fanylion y ddeddfwriaeth mewn cam cynnar, yng ngoleuni ein profiad gweithredol helaeth.          

 

5.2      Nid yw datblygu pwerau CCAUC wedi cydnabod y ffaith bod y rhan fwyaf o’r sefydliadau a reoleiddir hefyd yn gyrff dyfarnu. Mae wedi cyfyngu ar oruchwyliaeth CCAUC ar rai o’r elfennau sydd â’r risg fwyaf yn y ddarpariaeth addysg uwch, fel y ddarpariaeth dramor.   

 

5.3      Mae’r broses o ddynodi cyrsiau penodol yng Nghymru wedi gorfod cael ei diwygio fel bod sefydliadau a oedd yn cael eu hariannu’n gyhoeddus yn flaenorol yn gallu gwneud cais am ddynodi eu cyrsiau addysg uwch llawn amser yn benodol ar gyfer cymorth myfyrwyr.           

 

6                   A oes unrhyw wersi i’w dysgu o’r Ddeddf a sut mae’n gweithio’n ymarferol a fydd yn berthnasol efallai i’r Bil Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (AHYO) arfaethedig?

 

6.1       Rydym wedi nodi’n fanylach uchod rai o’r problemau rydym yn teimlo sydd wedi codi o Ddeddf 2015.

 

6.2       Dyma’r gwersi allweddol i’w dysgu o’r Ddeddf:

·           Ni ddylai’r ddeddfwriaeth fod mor fanwl a chyfarwyddol â Deddf 2015. Dylid ymddiried yn y sefydliad newydd i ddatblygu’r trefniadau angenrheidiol i gyflawni’r amcanion polisi cysylltiedig â’r ddeddfwriaeth newydd. Bydd deddfwriaeth fanwl a chyfarwyddol yn atal y sefydliad newydd rhag bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion Cymru. Bydd y sefydliad newydd yn destun craffu cyhoeddus, bydd rhaid iddo fod yn rhesymol, bydd yn ymgynghori ar ei drefniadau, bydd ei aelodau’n cael eu penodi’n gyhoeddus a bydd y sefydliad yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru. Maent yn fesurau rheoli digonol i gadw’r sefydliad newydd hwnnw’n atebol o ran cyflawni amcanion y ddeddfwriaeth.

 

·           Darparu i’r sefydliad newydd sancsiynau hyblyg a fydd yn caniatáu iddo ymateb yn gymesur ac yn bendant i ddarparwyr ysgogiadau i weithredu mewn ffyrdd sy’n bodloni amcanion y ddeddfwriaeth.

 

·           Fel rydym wedi’i nodi uchod, mae cyfyngiadau ar gynlluniau mynediad a ffioedd o ran cyflawni amcanion polisi. Fel rydym wedi’i nodi yn ein hymateb i ymgynghoriadau AHYO, rydym yn argymell gwahanu cytundebau canlyniadau a rheoleiddio a sicrhau nad yw’r holl ddarparwyr addysg, ymchwil a hyfforddiant sy’n derbyn cyllid gan y sefydliad yn cael eu trin yn wahanol mewn unrhyw ffordd.              

 

7                   A oes unrhyw wersi i’w dysgu o sut paratowyd y Ddeddf hon yn 2014/15 (ei ffurfio, ymgynghori arni, ei drafftio ac ati)?

 

7.1       Rydym wedi trafod cyfyngiadau Deddf 2015 yn fanwl uchod. I osgoi rhai o’r rhain, dylai datblygiad y ddeddfwriaeth a’r manylder yn y ddeddfwriaeth gael eu trafod i ddechrau gyda’r rhai sydd â phrofiad o weithredu’r trefniadau cyfredol, fel CCAUC, cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth ger bron y Cynulliad.

 

 

            Dr David Blaney

            Prif Weithredwr CCAUC

            3 Mai 2019



[1] Ymateb CCAUC i Ymgynghoriad Technegol Bil Addysg Uwch (Cymru) Llywodraeth Cymru; Ymateb CCAUC i ymgynghoriad y Papur Gwyn ar Fil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) 2013

 

[2] Ymateb CCAUC i Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – y camau nesaf